Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
Agenda (5) v3 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud)
|
Cwestiwn Brys
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda chwmni Lloyds Banking Group ynghylch cau’r ganolfan alwadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r ffaith bod 700 o weithwyr yn colli’u swyddi, ac yn benodol, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r gweithwyr hynny sy’n methu adleoli.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau Deddfwriaethol (45 munud) |
4 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth (15 munud) (Tudalennau 1 - 5) NDM4722 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4642, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch pwerau cyffredinol a phwerau codi ffioedd i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru a hawl y gymuned i brynu, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Gellir cael mynediad i NNDM4642 drwy’r linc a ganlyn: I weld copi o’r Bil Lleoliaeth: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html
|
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Addysg (15 mins) (Tudalennau 6 - 8) NNDM4731 Leighton Andrews (Rhondda) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4660, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Addysg ynghylch ffioedd am fwrdd a llety mewn Academïau byrddio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Gellir cael mynediad i NNDM4660 drwy’r linc a ganlyn: I weld copi o’r Bil Addysg i: |
6 Dadl ar Gomisiwn Bevan (60 munud)
NNDM4730 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn croesawu adroddiad Comisiwn Bevan "2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" a 2. yn nodi'r dadleuon sydd ynddo o blaid: a) cydnabod yr heriau anodd sy'n wynebu'r GIG yn y dyfodol; b) cefnogi newidiadau i wasanaethau sy'n hanfodol er mwyn diogelu dyfodol y GIG; c) cefnogi camau gweithredu yn y maes clinigol i wella diogelwch ac ansawdd y gofal a roddir i gleifion; a d) creu gwir bartneriaeth gyda'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod yr ethos a oedd yn sail i sefydlu'r GIG yng Nghymru yn cael ei gynnal yn y dyfodol.
Ym mhwynt 1, dileu “Yn croesawu” a rhoi “Yn
nodi” yn ei le. Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn siomedig â chynigion Llywodraeth Cymru i leihau
cyllidebau’r GIG dros y 3 blynedd nesaf. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun manwl, gyda thargedau y
gellir eu mesur, i wneud yn siŵr y gall y
gwasanaeth iechyd ymateb i’r heriau a nodir yn yr
adroddiad. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymateb manwl a chynhwysfawr i’r adroddiad mewn modd sy’n dangos ei hymrwymiad i GIG cynaliadwy, gan gynnwys: a) gwella canlyniadau cleifion; b) atal gwasanaethau rhag cael eu cwtogi; c) mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd; d) sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl yng nghyswllt meysydd polisi eraill; ac Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal gwasanaethau’r GIG rhag cael eu canoli, a chadarnhau ei hymrwymiad i gynnal Ysbytai Cyffredinol Dosbarth sy’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau iechyd lleol.
Mae copi o adroddiad Comisiwn Bevan "2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" i'w weld yn http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/betterfuture/?skip=1&lang=cy
|
7 Cyfnod pleidleisio |
8 Dadl Fer (30 munud)
NNDM4728 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Gadewch i Blant fod yn Blant
|
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011